Ysgol y Mis
Bob mis, rydym yn cydnabod un ysgol mewn modd arbennig am ei hymdrechion Masnach Deg. Gallai fod yn unrhyw beth o ddigwyddiad Masnach Deg ffantastig i ddysgu Masnach Deg dwys yn y dosbarth. Mae ysgolion ledled y wlad yn gweithio'n galed iawn ar faterion Masnach Deg; yn sicrhau fod disgyblion yn datblygu ac yn dysgu yng nghyd-destun Dinasyddiaeth Fyd-eang. Os hoffech enwebu ysgol fel Ysgol Masnach Deg y Mis, anfonwch neges at schools@fairtradewales.com
Mehefin, 2010
Ysgol Gynradd Penygloddfa am eu cân wych am Fasnach Deg. Ysgrifennwyd gan ddosbarth 5/6 R i’w chanu ar yr alaw ‘Cân Hosanna’.
Mai 2010
Ysgol St Christopher – am eu hymrwymiad 10 mlynedd at Fasnach Deg! Ac am eu prosiect addysg cymheiriaid gwych gydag ysgolion cynradd lleol. Roedd hyn yn golygu fod disgyblion yr ysgol uwchradd yn cynnal gwasanaethau mewn ysgolion cynradd lleol, dan y teitl 'Lledaenu’r Gair', gan annog ysgolion cynradd hefyd i weithredu ar faterion Masnach Deg. Ysgol galonogol iawn, gan fod nifer o’r plant yn wynebu sialensiau anghenion arbennig, ond yn dangos ymrwymiad at ofalu am eraill, er gwaethaf eu sialensiau eu hunain.
Ionawr 2009
Ysgol Cynfran (Conwy) - Am roi pwysau ar dimoedd pêl-droed cenedlaethol y DU i stocio peli troed Masnach Deg!
Aeth â baner Cymru Masnach Deg i Old Trafford a'u hannog i wneud rhagor dros Fasnach Deg.
Chwefror 2009
Ysgol Gladestry (Powys) - am newid yr holl fagiau mae'r plant yn eu defnyddio'n fagiau cotwm Masnach Deg!
Mawrth 2009
Sant Richard Gwyn (y Barri) - am eu dawns banana ffantastig o gwmpas de Cymru ar fws banana! - dull hwyliog o addysgu cyfoedion.
Ebrill 2009
Ysgol Dinas Brân (Sir Ddinbych) - am ymddangos ar y teledu a dweud wrth ysgolion yng Nghymru sut y daeth yn ysgol Masnach Deg a manteision Masnach Deg.
Mai 2009
Ysgol Hafren - am fod yr ysgol Fasnach Deg gyntaf yn Sir Drefaldwyn. Athrawon - am eu dolenni cwricwlwm ffantastig yn eu gwersi Masnach Deg. Disgyblion - am ysgrifennu at yr Awdurdod Addysg Lleol yn gofyn am brydau ysgol Masnach Deg.
Medi 2009
Ysgol Pontrobert (Powys) – Am goginio pryd bwyd 3 chwrs blasus Masnach Deg ar gyfer eu rhieni!
Hydref 2009
Ysgol St Cyres (Penarth) – Am gysylltu eu grŵp ysgol yn llwyddiannus gyda’u grŵp tref Masnach Deg. Bu ganddynt statws llawn Masnach Deg ers 2 flynedd, ac maent wedi bod yn rhan o ddatblygiad Masnach Deg y dref ers 2005, gan gynorthwyo gyda nifer o weithgareddau grŵp y dref. Mae rhai disgyblion o’r ysgol yn mynychu cyfarfodydd Fforwm Tref Masnach Deg Penarth yn rheolaidd, gydag un myfyriwr yn cael ei ethol yn ddiweddar fel swyddog cyhoeddusrwydd.
Tachwedd 2009
Ysgol Gellifaelog (Merthyr)- Derbyniodd disgybl o’r ysgol Wobr Goffa Peter Jones a sefydlwyd gan Love Zimbabwe. Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniadau unigryw plentyn unigol wrth ddeall a datblygu ‘Masnach Deg a dinasyddiaeth fyd-eang’.