Dewch yn Ysgol Fasnach Deg

I ddod yn Ysgol Fasnach Deg, dilynwch y 4 cam syml isod:

1. Cofrestrwch ar lein ar www.fairtrade.org.uk/schools
Pan fyddwch yn cofrestru cewch enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn i chi allu mynd i mewn i dudalennau ar lein eich ysgol eich hunan. Yma gallwch lwytho i fyny'ch gwaith a'ch tystiolaeth o ddigwyddiadau Masnach Deg a gallwch hefyd gael adnoddau gwych, rhannu awgrymiadau gydag ysgolion a llawer mwy.

2. Dechreuwch gyda'ch gweithgaredd Masnach Deg
Gweithiwch gyda'r 5 maen prawf isod a llwytho i fyny'ch tystiolaeth ar lein fel yr ewch yn eich blaen.

Y 5 Maen Prawf yw:
a) Mae'n hysgol wedi sefydlu Grŵp Llywio Ysgol Fasnach Deg.
Gall hynny fod yr un peth â'ch cyngor eco neu gyngor ysgol ond rhaid i o leiaf un cyfarfod y tymor fod ar gyfer Masnach Deg.
b) Mae'n hysgol wedi ysgrifennu ac wedi mabwysiadu Polisi Masnach Deg ysgol gyfan (gallwn ddarparu enghraifft o bolisi)
c) Mae'n hysgol wedi'i hymrwymo i werthu, hyrwyddo a defnyddio cynnyrch Masnach Deg, ble bo'n bosibl.
d) Mae'n hysgol gyfan yn dysgu am faterion Masnach Deg.
Dysgu ac addysgu ynghylch Masnach Deg mewn gwersi.
e) Mae'n hysgol yn hyrwyddo ac yn gweithredu dros Fasnach Deg yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach. Mae hynny'n cynnwys cynnal digwyddiadau Masnach Deg a gweithgareddau Masnach Deg eraill.

3. Ymgeisiwch am Statws Masnach Deg
Pan fyddwch yn llwytho i fyny'ch tystiolaeth ar www.fairtradeschools.net mi welwch fotwm 'cyflwyno' ar waelod y sgrîn. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw clicio ar y botwm ‘cyflwyno' ar lein. Yna bydd eich cais yn cael ei anfon at wiriwr ac anfonir e-bost atoch ar ôl edrych ar eich gwaith.

4. Cael eich tystysgrif - a'i ddangos ar eich wal gyda balchder!
Pan fydd eich ysgol wedi cael Statws Ysgol Fasnach Deg, gallwch gynnal parti, ysgrifennu i'r papurau newydd - yr holl bethau hwyliog hynny. Ond, dydi hi ddim yn gorffen yma! Cofiwch fod eich polisi Masnach Deg yn eich ymrwymo i barhau i ymestyn eich gweithgareddau Masnach Deg. Er mwyn adeiladu ar eich gwaith caled ac adnewyddu'ch statws Ysgol Masnach Deg bob blwyddyn, mae'n rhaid i chi ddangos eich bod yn parhau ac yn dwysau'ch gweithgareddau.

Er mwyn adnewyddu, mae'n rhaid i chi anfon:
• Adroddiad ar eich gweithgareddau gydol y flwyddyn
• Tair set o gofnodion y Grŵp Llywio (un ar gyfer pob tymor)
• Tystiolaeth o gynnal o leiaf un gweithgaredd newydd yn yr ysgol ac un yn y gymuned ehangach.

Gallwch hefyd fod yn ysgol sydd â diddordeb mewn Masnach Deg, ond nad yw o angenrheidrwydd eisiau ymuno â Chynllun Ysgol Fasnach Deg - mae hynny'n iawn hefyd! Rydym yn cefnogi unrhyw ysgol sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb mewn Masnach Deg! A dyw hynny ddim ar gyfer ysgolion yn unig - rydym yn cefnogi clybiau ieuenctid, meithrinfeydd, grwpiau ieuenctid ayb.


<< Yn ôl i brif dudalen Ysgolion Masnach Deg