Y Gweithwyr a’r Gwneuthurwyr

Sdim byd tebyg. Mae’r cyfan oll gan dy dîm.

Fe weli di’r baneri  a’r bws agored yn gwahodd edmygedd o bob stryd a phalmant.

Fe ddywedi wrth dy blant, dy ffrindiau dy fod di yma.

Dyma nefoedd bêl-droed.

Ond mewn eiliad o sefyll yn sdond, caiff y freuddwyd fawr ei chipio’n ddi-seremoni gan chwiban brysur.

Fe fynni di’n grug ac yn flin bod dy lygaid a’r sgrîn yn gwbl gytun bod y dyn yn y du yn gwbl annheg – ond er gwaetha’r gweddïau i ddwsinau o dduwiau – rhwystredigaeth a rheg yw dy dynged.

Ond wrth i’th ddagrau hen gilio – y peth pwysig yw cofio – y daw unwaith eto dy freuddwyd yn fyw.

Ymhen rhai wythnosau bydd dy dduwiau a’th ffrindiau unwaith eto’n dyheu am floedd torf yn eich clyw.

Ond er gwaetha’r sglein ar chwiban y dyfarnwr, y cicio a’r brathu a’r penderfyniadau dwl – nid dyma wir anghyfiawnder.

Yn grwn ac yn gwbl ganolog i’r gamp – y bêl ei hun ddylai grafu a chicio cydwybod.

Ymhell o balmentydd aur a phocedi di-waelod byd y bêl – bysedd blinedig ym Mhacistan sy’n talu’r pris – mewn amodau afiach am gyflog bach.

Er y taclo, y gweiddi a’r cicio a’r crio

Mae’r gwaed yn ddi-os ar ein dwylo.

 

Darllen mwy ar