Cenedl Masnach Deg – Cyfle-ymgynghoriaeth

Ebrill 11, 2022

Cenedl Masnach Deg – Adolygu’r meini prawf

Mae Fforwm Masnach Deg yr Alban a Cymru Masnach Deg yn chwilio am ymgynghorydd i baratoi adroddiad byr fel sail i’r sefydliadau adolygu’r meini prawf ar gyfer statws Cenedl Masnach Deg. Cytunwyd ar y meini prawf am y tro cyntaf yn 2006/7.

Prosiect

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw:

  1. Adolygu gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod, sydd wedi ceisio cynnig sylwadau ar y posibilrwydd o ddiwygio’r meini prawf ar gyfer Cenedl Masnach Deg yn y dyfodol;
  2. Cael mewnbwn gan bob un o’r ddau sefydliad drwy gynnal cyfweliadau gydag aelod allweddol o staff o bob sefydliad;
  3. Llunio adroddiad byr sy’n tynnu sylw at yr opsiynau posibl ar gyfer adolygu/diweddaru/adnewyddu’r meini prawf.

Ffrâm amser

Bydd cyfanswm o 4 diwrnod o waith yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Mehefin 2022 ar yr hwyraf, pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Cymru Masnach Deg a Fforwm Masnach Deg yr Alban.

Bydd Cymru Masnach Deg a Fforwm Masnach Deg yr Alban yn darparu’r dogfennau i’w hadolygu, a bydd aelod arweiniol o staff pob sefydliad yn sicrhau eu bod ar gael i gael eu cyfweld.

Cost

Y ffi fydd yn cael ei thalu yw £300 y diwrnod – am 4 diwrnod.  Ni chodir TAW. Bydd ffioedd yn cael eu talu drwy BACS o fewn 21 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ar bapur pennawd.

Mynegi Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â info@sftf.org.uk, yn Saesneg, erbyn dydd Iau, 28 Ebrill.