Ffair Masnach Deg Cymru 2017

Medi 27, 2017

Mae Ffair Masnach Deg Cymru yn ôl ar gyfer ei 11eg flwyddyn, gydag amserlen llawn o ddigwyddiadau. Mae amrywiaeth o gerddoriaeth i’w fwynhau a llawer o grefftau lleol a Masnach Deg i’w edmygu a phrynu! Rhennir y ffair rhwng Aberhonddu a’r Fenni, dros benwythnos y 7fed a’r 8fed o Hydref. Mwy o fanylion isod:

Dydd Sadwrn 7 Hydref
Neuadd Aberhonddu, 10-4. Mynediad – Am Ddim.
25 stondin yn gwerthu crefftau lleol a Masnach Deg .

Dydd Sadwrn 7 Hydref
Neuadd y Farchnad, Y Fenni, 8 pm-10pm. Mynediad £ 12 ar y drws.
Cyngerdd yn cynnwys Zim Voices (8-8.20), Danielle Lewis (8.30-9), a Kizzy Crawford (9.15- 10).

Dydd Sul 8 Hydref
Neuadd y Farchnad, Y Fenni. 10-5. Mynediad – £ 1. 40
Marchnad o stondinau sy’n gwerthu crefftau Masnach Deg / lleol. Agoriad swyddogol am 11am gan y cynghorwyr David & Penny Simcock a Nick Ramsey A.M. i Sir Fynwy. Cerddoriaeth byw – 11.30am – Alergen. 12.30 Côr Cymunedol Chrys Blanchard. 2pm – Steve Garrett.