Pythefnos Masnach Deg

22 Chwefror - 7 Mawrth

Am bythefnos bob blwyddyn mae cymunedau ledled Cymru a gweddill y DU yn dathlu ‘Pythefnos Masnach Deg.' Mae Pythefnos Masnach Deg yn uno holl gefnogwyr Masnach Deg, gan glymu masnachwyr, trwyddedigion, cynhyrchwyr, busnesau ac ymgyrchwyr mewn ymdrech genedlaethol i hyrwyddo ymwybyddiaeth a gwerthiant nwyddau Masnach Deg.

Thema eleni yw ‘Cyfnewid' Y nod yw derbyn 1,000,001 ymrwymiad gan ddefnyddwyr a busnesau ledled y DU i gyfnewid un nwydd nad yw'n un Masnach Deg am nwydd cyfatebol Masnach Deg; bydd pob enghraifft o gyfnewid yn brawf bod y DU eisiau gwell bargen i gynhyrchwyr y byd sy'n datblygu.

Eleni bydd llu o weithgareddau yng Nghymru gan gynnwys ymweliad pythefnos gan gynhyrchydd Masnach Deg.

Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o fanylion yn fuan! Neu tanysgrifiwch i'n cylchlythyr drwy lenwi'r blwch 'Ymuno gyda'r fforwm' ar golofn ochr chwith y sgrin.