Gwirfoddolwyr Ysgolion Masnach Deg

Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli ar ein Cynllun Ysgolion Masnach Deg, cysylltwch â ni: schools@fairtradewales.com

Swyddi Gwirfoddoli

 

Rydym yn chwilio am siaradwyr ac aseswyr i gynorthwyo gyda’r Cynllun Ysgolion Masnach Deg.  Sefydlwyd y Cynllun Ysgolion Masnach Deg i helpu ysgolion gyda’u gweithgareddau Masnach Deg.  Rydym yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i ysgolion gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a gweithgaredd Masnach Deg ymysg pobl ifainc.  Gall ysgolion sicrhau statws Masnach Deg, a derbyn tystysgrif i ddangos eu hymrwymiad i Fasnach Deg.   

Mae llawer o ysgolion ledled Cymru yn awyddus i gymryd rhan yn y Cynllun Masnach Deg.  Felly rydym yn y broses o recriwtio siaradwyr ac aseswyr gwirfoddol i weithio gydag ysgolion yn eu hardal leol.  Byddwn yn darparu hyfforddiant trylwyr, adnoddau a threuliau ar gyfer y ddwy swydd.

Siaradwr Ysgol

 

Bydd yn ofynnol ymweld ag ysgolion sydd wedi gofyn am Siaradwr Masnach Deg.  Bydd angen i chi fod â diddordeb mewn Masnach Deg, yn siaradwr hyderus, ac yn gallu gweithio’n dda gyda phlant.  Darperir diwrnod hyfforddiant ac adnoddau i chi eu defnyddio.  Gallwch wirfoddoli cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch, fel sy’n addas ar gyfer eich trefniadau chi

 

Asesydd

 

Bydd angen asesu/marcio ceisiadau Masnach Deg gan ysgolion.  Anfonir ceisiadau ymlaen i chi, felly gallwch wneud y gwaith hwn o’ch cartref.  Byddwn yn rhoi meini prawf i chi ar gyfer marcio’r ceisiadau, a darperir diwrnod o hyfforddiant.

Dyddiadau Hyfforddi

15 Awst, Caerdydd, Diwrnod Hyfforddi Asesydd Ysgolion Masnach Deg, 12pm – 5pm Cliciwch am ffurflen archebu lle. 12 Medi, Abertawe, Diwrnod Hyfforddi Siaradwr Ysgolion Masnach Deg, 10am – 5pm. Cliciwch am ffurflen archebu lle.

19 Medi, Bangor, Diwrnod Hyfforddi Siaradwr Ysgolion Masnach Deg, 10am – 5pm. Cliciwch am ffurflen archebu lle.