New Fair Trade Products

Oke Juice Cartons Smwddi OKE

Ffermwyr yn y byd sy’n datblygu sydd biau 50% o AgroFair, gwneuthurwyr Smwddi OKE, ac mae unrhyw elw o’r busnes yn cael ei dalu nôl i’r cynhyrchwyr ar ffurf difidend (sefydliadau masnach deg piau’r 50% arall).

Mae OKÉ wedi’i ymrwymo i dalu mwy na’r pris Masnach Deg arferol i’w ffermwyr . Ni fydd unrhyw ffrwyth sy’n cael ei farchnata o dan y brand OKÉ byth wedi cael ei gario gan awyren.

Ac, yn bwysig iawn, mae blas gwych ar y smwddis!  Maen nhw’n cael eu gwneud o gynnyrch o’r ansawdd gorau, wedi’u cynhyrchu heb dewsuddion nac ychwanegion. Mae’r smwddis ar gael mewn dau flas; Mango, Oren a Guava Pinc a Mafon, Mwyar duon a Banana.  Maen nhw ar gael o heddiw ymlaen mewn y 179 o siopa Asda.Hyd yn oed os nad ydych yn siopa yn ASDA fel rheol, ceisiwch eu canfod yn eich siop leol a chael blas ar smwddis OKÉ.  Mae gennym dasg anferth o’n blaen yn ystod y misoedd nesaf ac rydym wirioneddol angen eich help.  Mae'n rhaid i ni werthu ar gyfartaledd ddau smwddi'r diwrnod, o bob blas, ymhob siop.  Dyw hynny ddim yn swnio’n rhy anodd nes eich bod yn sylweddoli fod hynny’n golygu gwerthu 5,012 carton yr wythnos! 

Cyllideb fechan iawn sydd gennym ar gyfer cysylltiadau ac er bod y tîm yn frwdfrydig mae’n fychan iawn, felly rydych chi, sefydliad Masnach Deg sylfaenol y DU yn hollol hanfodol i wneud smwddis OKÉ yn hyfyw. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â.


 

Cneu Liberation Harry Hill

Ar gael oddi wrth www.ethicalsuperstore.com ac ASDA.