Cyhoeddi Enillydd Hoff Baned Masnach Deg Cymru
Ymddangosodd arwr masnach deg newydd yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Mae lolfa milgi yng Nghaerdydd wedi dod i'r brig mewn pleidlais ar lein i weld ble mae hoff baned Masnach Deg Cymru.
Cafodd pleidlais ar lein ‘Hoff Baned Masnach Deg' ei rhedeg gan ganolfan gydweithredol Cymru i ganfod ble mae pobl yn mynd am eu hoff baned foesegol.
Cafodd ugain o fusnesau eu henwebu gan gynnwys caffis, tafarndai a bariau. Roedd pob un yn fusnes lleol annibynnol. Te oedd y ddiod fwyaf poblogaidd i'w archebu.
Roedd Embassy Café, hefyd yng Nghaerdydd a Red Café yn y Mwmbls (Abertawe) yn ail orau.
cewch ragor o wybodaeth ar milgi drwy ymweld â www.milgilounge.co.uk