Lansiodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ymgyrch ‘Hwb Olaf Dros Siroedd Masnach Deg' Cymru Masnach Deg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

  

Mae Cymru Masnach Deg yn bodoli er mwyn i sefydliad Masnach Deg dyfu yng Nghymru.

Rydym yn gwneud hynny drwy:

  • Arwain ymgyrch Cenedl Fasnach Deg
  • Cefnogi a datblygu gweithgaredd sylfaenol Masnach Deg - o grwpiau trefi a siroedd i ysgolion
  • Cynhyrchu gwefan a defnyddiau dwyieithog
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddylanwadu ar newid dros Fasnach Deg

Dros y tair blynedd diwethaf Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cyllido Fforwm Masnach Deg Cymru.

Ar 6 Mehefin 2008 cafodd Cymru'r llwyddiant hanesyddol o ddod y genedl Fasnach Deg gyntaf erioed. Daeth y cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Gymru Masnach Deg, gyda chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau fod mwy o gynnyrch Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i Fasnach Deg.

I ganfod rhagor ynghylch ymgyrch Cenedl Fasnach Deg cliciwch yma.

Defnyddiwch y dolenni uchod i archwilio meysydd gwahanol sefydliad Masnach Deg yng Nghymru a gweld sut y gallwch chi gymryd rhan. Cofiwch ymuno â'n rhestr cefnogwyr os hoffech dderbyn ein llythyr newyddion misol.


------------
NEWYDDION: Cliciwch yma i ganfod beth sy'n newydd gyda Chymru Masnach Deg
Cliciwch yma i weld llythyr newyddion mis Rhagfyr Cymru Masnach Deg