Adnoddau Dwyieithog Newydd ar gael
Mae'n cyfeillion yn y Sefydliad Marchnad Deg wedi gweithio gyda ni i gynhyrchu fersiynau Cymraeg neu ddwyieithog o'u posteri, sticeri ffenestri, taflenni a phapurau hysbysebu 'Ewch yn Bananas' ar gyfer Pythefnos Marchnad Deg.
Mae'r rhain ar gael i'w harchebu o wefan Sefydliad Masnach Deg.
- Cliciwch yma i gael y sticer ffenestr 'Gofynnwch am Fasnach Deg yma'. Fel arfer mae'r sticeri'n costio £1, ond mae Cymru Masnach Deg wedi archebu 100 o sticeri i'w rhoi am ddim! Os hoffech chi gael gafael ar rai e-bostiwch kate@fairtradewales.com a rhowch wybod sawl un hoffech chi.
- Cliciwch yma i archebu'r posteri newydd. Oherwydd natur y cynllun mae'r rhain wedi eu cynhyrchu ar wahân yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Mae'r taflenni newydd a'r papurau gwybodaeth ar eu ffordd!